| Dyma ddisgrifiad llawn o’r fideo ‘Band Eang am Byth - Defnyddiwr Cartref’.
GOLYGFA 1
Gwelwn luniau o dudalennau gwefan a rhaglenni teledu
yn fflachio ar y sgrîn yn gyflym un ar ôl y llall fel
petai rhywun yn fflicio drwyddynt gyda theclyn rheoli o bell.
Cyflwynydd rhaglen gwis yn ymddangos mewn siwt rad a dannedd gwynion
iawn. Mae’n troi i wynebu’r camera ac yn cyhoeddi, fel
petai’n siarad â chynulleidfa stiwdio fawr
‘Beth am i ni chwarae… ‘Newid byd’!’
Gan ddarllen o’r cerdyn ciw cwis sydd ganddo yn ei law.
‘Dyma ni…Band Eang, be fyddech chi yn ei wneud gydag
e?’
GOLYGFA 2
Gwelwn fenyw wedi ymddeol yn sefyll yng nghanol planhigion
a choed prydferth mewn hen dy gwydr deniadol gyda heulwen ysgafn
min nos yn llifo i mewn drwy’r paneli gwydr. Mae hi’n
gwisgo ei dillad garddio, gyda het a ffedog.
‘Mae Band Eang yn wych!’ meddai, yn amlwg yn fodlon
iawn.
Wrth iddi godi ei dwylo daw nifer o ddelweddau wedi’u hanimeiddio
i’r golwg yn hofran, mae hi’n dechrau cyffwrdd a symud
lluniau unigol o gwmpas wrth iddynt hofran o’i blaen mewn
amgylchedd rhithwir.
Troslais wrth iddi chwarae â’r delweddau:
‘Gallaf gael gafael ar lwyth o gynlluniau gardd ar fy nghyfrifiadur,
chwilio am blanhigion prin ac anfon lluniau o fy megonias hardd
i fy holl ffrindiau, mewn eiliadau.’
Mae hi’n dewis llun terfynol o’i begonias gorau ac
yn ei wthio ar ei daith drwy dapio ochr y ddelwedd gyda’i
llaw. Mae’r llun o’i begonias yn diflannu oddi ar ochr
dde’r sgrîn.
Ffilm yn torri i olygfa y tu fewn gyda ffrind y fenyw arddio. Menyw
arall wedi ymddeol mewn cardigan lliw gwlanen sy’n eistedd
wrth ei chyfrifiadur wrth i’r llun o’r begonias prydferth
ymddangos ar y sgrîn. Mae hi’n pwyso ymlaen i graffu
ar y llun, yn tynnu ystumiau ac yn edrych ar ei begonias hi, sy’n
edrych yn wael iawn mewn pot ceramig wrth ymyl y monitor, maent
yn edrych yn hen ac wedi gwywo.
GOLYGFA 3
Gwelwn fachgen yn ei arddegau’n eistedd ar waelod
ei wely. Gwelwn lawr pren, bleind modern ar y ffenestr a’r
cyfrifiadur gemau diweddaraf yn ganolbwynt. Mae’r ystafell
yn eithaf tywyll ac mae sgrîn y cyfrifiadur yn disgleirio.
Mae’r bachgen yn ymestyn ei ddwylo fel pe bai’n paratoi
ar gyfer rhywbeth. Mae’r camera’n panio ar draws y tri
chloc sydd ganddo ar y wal sy’n dangos yr amser yn Los Angeles,
Bethesda a Tokyo. Mae’r bachgen yn edrych yn araf ar y clociau.
Mae bys munud pob cloc yn ticio ymlaen i’r funud nesaf.
Mae sgrîn y cyfrifiadur yn y gornel yn goleuo, gwelwn wen
fach o gydnabyddiaeth ar wyneb y bachgen. Ar sgrîn y cyfrifiadur,
gwelwn nifer o eiconau’n cynrychioli gwahanol chwaraewyr gemau
ledled y byd sy’n ymuno â’r grwp. Wrth i bob eicon
newydd ymddangos, gallwch glywed lleisiau’n siarad gwahanol
ieithoedd.
Gwelwn y bachgen yn cerdded o’r gwely i’r cyfrifiadur,
yn eistedd gyda’i goesau wedi’u croesi ac yn pigo’r
pad rheoli i fyny’n araf ac yn paratoi i chwarae.
GOLYGFA 4
Gwelwn athro gwyddoniaeth 30/40 oed yn gwisgo tanc
top gwlân, cot wen a sbectol ag ymyl drwchus yn sgriblo fformiwlâu
ar fwrdd du gyda’i gefn tuag at y camera. Mae mewn ystafell
â phaneli pren gydag amrywiaeth o declynnau gwyddonol wedi’u
gwasgaru o gwmpas yr ystafell.
Wrth iddo siarad, gwelwn ef yn troi ac yn cerdded tuag at fwrdd
mawr gydag offer cymhleth arno. Mae tiwbiau profi’n llawn
hylifau lliwgar yn ffrwtian ac mae llosgwyr Bunsen yn fflamio’n
wyllt.
Clywn yr athro gwyddoniaeth yn siarad ‘Mae’n ymwneud
â chael mynediad at fyd o wybodaeth. Ymchwilio a dysgu beth
bynnag yr hoffech chi. A chyda’r wybodaeth honno daw pwer…’
Ar unwaith mae’n troi’n wyddonydd gwallgof, ac mae’r
cefndir yn mynd yn hollol dywyll wrth iddo hyrddio ei freichiau
i’r awyr a rhuo’r gair:
‘PWER!’
Ar draws ei gorff a’r cefndir tywyll, gwelwn fformiwlâu
algebra
‘Pwer i ddysgu, pwer i ddeall, pwer i GREU!’ mae’n
gweiddi’n wallgof.
Mae’n newid yn ôl i’r athro gwyddoniaeth cyffredin
sy’n dweud ‘Beth bynnag…’
Mae’n troi unwaith eto i’r gwyddonydd gwallgof yn chwerthin
fel ynfytyn, gan sefyll wrth gorff ar y bwrdd wedi’i orchuddio
â lliain ac wedi’i glymu i’r bwrdd â chadwyni,
mae’n gwingo ac yn strancio.
‘…fo’ch dyhead’ meddai’n ddirgel,
ar ôl troi nôl i fod yn wyddonydd cyffredin eto.
GOLYGFA 5
Gwelwn gwpl ifanc yn bwyta pryd rhamantus mewn cartref
modern gyda cherddoriaeth glasurol yn gefndir. Mae’r ferch,
sy’n gwisgo ffrog ddu, yn codi ac yn clirio eu platiau o’r
bwrdd, sydd wedi’i orchuddio â lliain coch. Wrth iddi
fynd i’r gegin mae’n troi ac yn gwenu’n dyner
ar y dyn sy’n eistedd wrth y bwrdd, mae yntau’n gwenu
yn ôl ac yn nodio’i ben yn barchus.
Mae hi’n cau’r drws y tu ôl iddi ac ym mynd i’r
gegin. Mae’n flêr ofnadwy, gyda chynnwys padelli’n
ffrwtian ac yn berwi drosodd ar yr hob a’r ochrau wedi’u
gorchuddio mewn bwydach ar ôl ei hymdrechion aflwyddiannus.
Yn amlwg mewn panig, mae hi’n taflu’r platiau sydd ganddi
yn ei dwylo i’r bin cyn estyn am gyfrifiadur ar-lin sydd ar
yr ochr. Mae hi’n codi’r sgrîn i ddangos llun
byw o’i mam drwy we-gamera. Mae hi’n estyn dros yr oergell
i’w gwe-gamera ac yn ei bwyntio at yr hob, cyn sgrechen yn
alarus ar y cyfrifiadur
‘Mam!’
Mae’r fam yn ateb yn bwyllog
‘Pwylla nawr… sortiwn ni hyn mas nawr, olreit?
Mae’r sgrîn yn torri nôl i’r ystafell fwyta
dawel lle mae’r dyn yn codi caead bowlen ceramig i ganfod
y menyn, mae’n edrych yn falch. Yn ôl yn y gegin anhrefnus,
gwelwn y ferch yn tywallt llawer o flawd i mewn i badell ar yr hob.
Mae’r fam yn tynnu’i gwallt ac yn gweiddi
‘Na! Dim gormod!’
‘Wel faint, te?’ meddai’r ferch yn ddig ac yn
wyllt
‘Dim ond llond llwy!’ meddai’r fam
Clywn y ffôn yn canu yn y gegin, mae’r ferch yn ei
ateb ac yn dweud yn ddig
‘Dim nawr!’
Wrth i’r ferch fynd o gwmpas ei phethau yn y gegin, gwelwn
y fam yn gwylio’n nerfus a’r cariad yn yr ystafell fwyta’n
gwrando chwilfrydig ar y synau od sy’n dod o’r gegin.
O’r diwedd, mae’r ferch yn ymddangos o’r gegin
gydag ochenaid o ryddhad, gwên a 2 blât o fwyd, ond
gyda blawd ar ei ffrog a’i hwyneb. Wrth iddi eistedd mae’n
rhoi’r platiau ar y bwrdd. O’r cyfrifiadur yn y gegin
gall y ddau glywed y fam yn gweiddi
‘Jen, Jen … y ffwrn!’
Clywn ‘bang!’ swnllyd o’r gegin cyn i bwff o
fwg ddod drwy ochrau’r drws a chyn i badell gwympo’n
swnllyd ar y llawr.
Gwelwn edrychiad syn ar wyneb y gw^r wrth i’r ferch frathu
ei thafod, gan geisio anwybyddu’r sefyllfa a dechrau bwyta
ei bwyd.
DIWEDD
Ymddengys logo Band Eang Cymru ar y sgrîn
Troislais: ‘Am hwyl, i ddysgu, i fyw. Band Eang,
am oes.’
Rhaglen Band Eang Cymru
Rhadbost
NAT 15123
CF37 5BR
Neu ymwelwch â’r wefan nawr –
www.cymru.gov.uk/bandeang
Nôl i'r hafan
|