Band Eang - Broadband

Dyma ddisgrifiad llawn o'r fideo 'Band Eang am Oes – Busnes'

GOLYGFA 1

Swyddfa gyfyng yn y cartref, gyda'r cyntedd yn y golwg, gellir gweld drws gyda phentwr o focsys o'i flaen. Mae'r camera yn symud rhwng y pentyrrau o focsys i mewn i'r swyddfa i ffocysu ar ddyn y tu ôl i ddesg. Mae'r ystafell yn gyfyng iawn ac mae'n teimlo'n glawstroffobig. Gan eistedd yn eithaf anghyfforddus, mae 'Milo' yn gwisgo crys a throwsus du. Mae'n stampio bocsys wrth iddynt ddisgyn o frig y sgrin ac mae'n llofnodi ffurflenni amrywiol. Mae hefyd ar y ffôn wrth i'r camera symud ymhellach i mewn i'r ystafell.

Mae sylwebaeth y fideo'n cychwyn; "Felly rydych chi mewn busnes, unrhyw fusnes. Diwrnod arall, yr un hen beth. Ddim yn hwyl, nagyw? O na fyddai'n braf cael rhywbeth newydd yn eich gweithle sy'n gyffrous?"

Daw blwch arian llachar i'r golwg, gyda'r geiriau 'torri'n rhydd' yn ymddangos arno. Mae Milo'n gollwng y ffôn a'r stamp ac yn dechrau archwilio'r blwch.

"Rhywbeth i wneud eich diwrnod yn haws a thyfu eich busnes yn fwy pleserus. Rhywbeth i'ch helpu i wneud eich gwaith, mewn chwinciad".

Mae'r blwch yn diflannu a gwelwn fotwm - mae'n grwn ac yn llwyd gyda'r tu mewn yn fflachio'n goch. Mae Milo'n plygu i graffu ar y botwm ar lefel y bwrdd.

"Band eang, diddorol iawn. Wel, amdani, pwyswch y botwm."

Mae'n gwasgu'r botwm yn betrus. Mae'r gerddoriaeth yn y cefndir yn newid ac yn troi'n fwy cadarnhaol a hapus. Mae'r bwrdd yn disgyn i'r llawr, ac mae popeth yn y swyddfa'n plygu'n fflat fel pe baent wedi'u gwneud o gerdyn fflat, gan adael Milo yn sefyll mewn gofod agored wedi'i amgylchynu gan awyr gwyrddlas.

GOLYGFA 2

Mae Milo bellach yn sefyll mewn gofod gwag wedi'i amgylchynu gan awyr gwyrddlas. Mae'n dechrau cerdded, ac mae dinasoedd yn ymddangos yn bell y tu ôl iddo, ac mae ffonau'n dechrau llamu o waelod ac o frig y sgrin. Mae rhai'n symudol ac mae eraill yn ffonau arferol. Mae pob un yn canu.

"Cwsmer newydd, ac un arall, llu ohonyn nhw."

Mae golau coch tebyg i laser yn dechrau symud o amgylch y ffonau gan adael ôl. Mae mwy o ffonau yn llamu.

"Medrwch chi siarad â nhw. Medrwch chi siarad â mwy ohonyn nhw gyda band eang."

Mae’r camera'n dilyn pelydryn golau wrth iddo wibio tuag at y dinasoedd yn y cefndir. Yn gyntaf, gwelwn leoliadau enwog Cymru megis Stadiwm y Mileniwm, yna Llundain a lleoedd pellach.

"Nid eich marchnad leol yn unig, ond ymhellach i ffwrdd."

Mae'r camera'n parhau i ddilyn y pelydryn wrth iddo deithio i'r ddinas bellaf sy'n cynnwys y 'Statue of Liberty' a thy opera Sidney.

"...y byd i gyd, hyd yn oed."

Mae'r camera'n parhau i ddilyn y pelydrau wrth iddynt ddychwelyd at Milo. Mae sgriniau plasma'n ymddangos yn arnofio o'i amgylch, ac mae wynebau cwsmeriaid yn ymddangos arnynt, yn siarad gydag ef, er na allwn eu clywed yn eglur.

"A nawr fe allwch chi eu gweld nhw, ble bynnag y maen nhw, heb adael eich desg."

Daw llais y dyn o Japan yn glywadwy, ond ni all Milo ddeall Japanaeg. Mae'r fideo'n torri i gyfrifiadur llaw gyda botwm band eang arno. Mae Milo'n cyffwrdd â'r botwm.

"Rydych chi'n dysgu mwy am beth mae eich cwsmeriaid ei eisiau..."

...ac yn sydyn mae grym band eang yn cyfieithu beth mae'r dyn o Japan yn ei ddweud – 'can you make them in blue?'

"...felly gallwch chi deilwra eich busnes i ateb y galw."

Mae'r camera yn symud yn ôl at Milo, ac mae swigod yn ymddangos o amgylch ei ben gydag amrywiaeth o symbolau a diagramau yn cynrychioli syniadau am flychau, materion ariannol, hafaliadau technegol a darparu.

"Bellach mae'n haws nag erioed i rannu eich holl wybodaeth gyda phobl eraill. Rhoi gwybod iddyn nhw beth rydych chi'n ei feddwl. A mynd ati i'w wneud e."

Mae Milo'n edrych yn hyderus iawn ac mae'n gwneud galwad ffôn.

"A dyma'r darn diddorol."

Mae dyblygiadau o Milo'n ymddangos yn gwneud amrywiaeth o waith swyddfa, i gyfleu'r syniad y gall wneud amldasgiau. Mae sawl llinell gynhyrchu yn mynd yn y cefndir ac mae mwy o belydrau laser coch yn plethu rhwng ei gilydd drwy gydol yr olygfa wrth i'r camera symud ar draws.

"Rydych chi'n defnyddio'r un ffordd o roi i'ch cwsmeriaid beth maen nhw eisiau â'r un ddefnyddioch chi i ddarganfod beth roedden nhw ei eisiau yn y lle cyntaf."

GOLYGFA 3

Mae'r camera'n newid i edrych i lawr ar bad braslunio wrth i Milo dynnu llun y botwm band eang arno. Yn sydyn daw'n fyw ac mae'n ei wasgu. Mae'r camera'n symud yn ôl gan edrych yn syth i lawr ar Milo. O'r tu mewn i'r llyfr braslunio mae llawer o ddogfennau'n hedfan allan ac yn trefnu eu hunain yn yr awyr ac mae'r camera'n symud ar draws sawl un ohonynt. Maent yn dangos amrywiaeth o animeiddiadau o graffiau, siartiau cylch megis cynnydd o ran elw yn erbyn gwerthiant, ffurflenni treth, siartiau gwerthiant a thwf a ffurflenni TAW.

"Bydd yn rhaid i chi wneud mwy nawr, wrth gwrs. Ond dim problem, oherwydd byddwch yn abl i wneud mwy. Mae band eang yn rhoi amser i chi wneud mwy. Ie, 'na'r syniad, mae band eang yno drwy'r amser i'ch helpu chi i redeg eich busnes."

GOLYGFA 4

Torri i galeri gyda dau gwpl yn edrych ac yn pwyntio at ddyluniad lliwgar o flwch ar y wal sy'n edrych fel darn o Gelfyddyd Bop. Mae dyn a chamera fideo'n ymddangos o'r dde. Rydym yn closio i mewn at sgrin wylio'r camera fideo, sydd wedi'i ffocysu ar ddyluniad y blwch.

Wrth i'r prif gamera dynnu yn ôl, rydym yn canfod bod y ddelwedd o'r dyluniad blwch Celfyddyd Bop wedi dod yn rhan o wefan ar sgrin cyfrifiadur personol. Gwefan o'r enw 'boxes4u.online' ydyw, sy'n galluogi'r defnyddiwr i ddewis a dethol patrymau ac yna archebu'r blwch y maent ei eisiau.

Mae cwsmer benywaidd yn dewis patrymau ac yna mae'n defnyddio'r botwm band eang ar y wefan i brynu'r blwch.

"Ydyn ni ar y trywydd iawn? Ydyn glei."

Mae pelydryn laser coch yn teithio nôl at Milo sy'n gwenu gan edrych i fyny wrth iddo orffen ei alwad ffôn.

"Nawr dyna i chi dasg a hanner. Neu falle ddim."

Mae mwy o belydrau coch yn ymddangos o Milo i'w gysylltu â'i rwydwaith gymorth. Maent yn hedfan i ffwrdd drwy negeseuon teipograffig gan gynnwys 'Bancio dros y Rhyngrwyd', 'data wrth gefn', 'cyngor ar-lein', 'ymchwil ar y we'. Mae'r pelydryn yn ymuno â sawl un arall i ffurfio rhwydwaith enfawr tebyg i we.

"Ocê. 'Dech chi'n deall Band Eang i Fusnes te?"

Mae pelydryn yn saethu tuag at y gwyliwr – mae'r sgrîn yn troi'n wyn ac mae'r botwm Band Eang yn ymddangos.

"Grêt."

GOLYGFA 5

Mae bys yn gwthio'r botwm band eang wrth i'r camera dynnu'n ôl, i ddatgelu bod y botwm ar gyfrifiadur côl.

"Band eang am byth, felly."

Wrth i Milo gau'r cyfrifiadur côl, gwelwn ei fod yn eistedd mewn dillad ymlacio yn y gegin, a'i fod wedi bod yn rhedeg ei fusnes oddi yno. Mae'n ymlacio.

Gellir clywed plant yn chwerthin yn yr ardd ac yn galw "dad, dad".

Caiff pêl-droed ei gicio drwy ddamwain i mewn i'r ystafell, ac mae'n ei daro'n ysgafn ar ei ben ac yn glanio ar ei gôl. Mae'n chwerthin, yn ei ddal yn llamu i fyny ac yn mynd i ymuno â'r plant sy'n chwerthin yn yr ardd.

DIWEDD

Mae delwedd Band Eang Cymru a logo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymddangos ar waelod y sgrîn.

Mae manylion cyswllt Rhaglen Band Eang Cymru yn eistedd uwchben y logos.

Rhaglen Band Eang Cymru
Rhadbost
NAT 15123
CF37 5BR

Neu ymwelwch â’r wefan nawr –
www.cymru.gov.uk/bandeang

Nôl i’r hafan

*
English? Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhaglen Band Eang Cymru